Mae Encil Llyfrau Lliwgar yn digwydd am y pedwerydd tro eleni, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael bod yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy, o
bnawn Gwener, 7fed o Dachwedd, hyd at bnawn Sul, 9fed o Dachwedd!
Mae Encil Llyfrau Lliwgar yn gyfle gwych i bobl LHDTC+ sy'n sgwennu drwy gyfrwng y Gymraeg ddod ynghyd mewn awyrgylch saff a chyfeillgar, a chynhwysol, i gwrdd ag eraill, ymateb i ysgogiadau sgwennu, a datblygu'n greadigol.
Eleni, bydd gennym dri ysgogydd creadigol yn ystod yr Encil, a sesiwn ar ol yr Encil gydag awdur gwadd!
Bydd yr awdur, y golygydd a'r sgriptiwr, Megan Angharad Hunter (tu ôl i'r awyr, Astronot yn yr Atig, Cymry Balch Ifanc, gol.), y bardd, y llenor a'r naturiaethwraig, Lowri Hedd Vaughan (Bardd y Mis Radio Cymru, deiliad prosiect Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, a chyfrol ar y gweill gyda Chyhoeddiadau'r Stamp), a Gareth Evans-Jones (sylfaenydd Llyfrau Lliwgar, llenor a sgriptiwr), yn cynnal gwahanol sesiynau fel criw ac un-wrth-un yn ystod y penwythnos.
Yn dilyn yr Encil, bydd y dramodydd, yr awdur a'r sgriptiwr teledu, Daf James (Llwyth, Tylwyth, Jac a'r Angel, Lost Boys and Fairies) yn siaradwr gwadd ar gyfer sesiwn a gynhelir dros Zoom nos Fawrth, 20 Tachwedd 2025, am 7pm.
Mae'r cyfle yma, ynghyd â gallu aros yn Nhŷ Newydd a blasu'r bwyd hyfryd a baratoir yno am benwythnos cyfan, yn rhad ac am ddim. Ond dim ond lle i 12 sydd. Felly, llenwch y ffurflen isod erbyn dydd Llun, 1 Medi 2025, os gwelwch yn dda.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn o gwbl, mae croeso ichi gysylltu a Gareth Evans-Jones (llyfraulliwgar@gmail.com).
Pob lwc!