Ein Llais 2025
Heb risg, ni all celf arloesi; ni all ddatblygu, ac ni all yr artist gyrraedd eu llawn botensial.
Bydd digwyddiad rhannu Ein Llais eleni yn noswaith ysbrydoledig o greadigrwydd a chysylltiad! Yno, bydd Aliyy Azad – derbynnydd Bwrsari Ein Llais – a’r awdur Krystal S. Lowe yn rhannu detholiad o‘u gwaith-ar-waith, gan gynnig cipolwg i mewn i’w teithiau creadigol.
Ar ddiwedd y noson, mae croeso i chi gymryd rhan yn ein sesiwn meic agored di-feic! P’un ai a ydych chi’n ysgrifennwr profiadol, neu dim ond newydd ddechrau, neu’n ysgrifennu er pleser yn unig, byddem wrth ein bodd yn clywed eich gwaith-ar-waith. Neu, os dymunwch, gallwch eistedd yn ôl, ymlacio, a mwynhau’r darlleniadau.
Dewch i wrando ar y straeon yng nghwmni pobl eraill, a mwynhau dishgled a danteithion melys. P’un ai a ydych chi’n rhannu eich gwaith eich hun, neu dim ond yn amsugno’r awyrgylch, mae digwyddiad Rhannu Ein Llais ar gyfer pawb. Rydyn ni’n edrych ’mlaen yn fawr at eich gweld chi yno!
Artistiaid digwyddiad Rhannu Ein Llais 2025